CASGLU YNGHYD Y GORAU O GYNNYRCH CYMRU

Yr ydych yma: Hafan > Astudiaethau Achos > Cymorth Busnes Am Ddim i Fusnesau Bwyd Cymru

Cymorth Busnes Am Ddim i Fusnesau Bwyd Cymru

Gall busnesau bwyd a diod yng Nghymru gael cymorth ac arweiniad am ddim i fanteisio ar gyfleoedd caffael mawr yn y sector cyhoeddus.

Fel rhan o’u prosiect Larder Cymru, mae Menter Môn yn targedu cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd yng Nghymru, gyda gweledigaeth i leoleiddio’r gadwyn gyflenwi a chael effaith gadarnhaol ar yr economi, gwerthoedd cymdeithasol a’r amgylchedd.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn canolbwyntio ar gydgysylltu a chryfhau cysylltiadau o fewn cadwyni cyflenwi lleol i osod bwyd a diod a gynhyrchir yn rhanbarthol fel cynnig cymhellol ar gyfer contractau mawr ledled y wlad.

Dywedodd Bethan Fraser-Williams, Cyfarwyddwr Prosiectau Menter Môn: “Rydym yn gweithio gyda phrynwyr yn y sector cyhoeddus, swyddogion caffael a sefydliadau gwahanol o awdurdodau lleol, gwasanaethau brys, y GIG, darparwyr addysg a mwy i nodi beth sydd ei angen arnynt a sut y gallwn bontio y bwlch ar gyfer cyflenwyr annibynnol.”

“Rydym hefyd mewn trafodaethau gyda chyfanwerthwyr ac yn edrych ar sut y gall busnesau bach ymuno i dendro am gyfleoedd mwy na fyddai wedi bod ar gael iddynt yn flaenorol.

“O ystyried yr hinsawdd ryngwladol sydd ohoni, gallai hwn hefyd fod yr opsiwn mwyaf buddiol yn ariannol iddyn nhw.”

Ychwanegodd: “Ein nod ehangach yw lleihau’r ôl troed carbon, cynyddu proffidioldeb i fusnesau annibynnol yng Nghymru a lleihau’r gadwyn gyflenwi, sydd oll yn creu arena fwy cefnogol a chynaliadwy i gynhyrchwyr a’r sector cyhoeddus.”

Mae ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gynnig eu hunain i'w hystyried ac archwilio sut y byddai bod yn rhan o'r gadwyn gyflenwi yn cefnogi eu busnes a'r economi.

Bydd y busnesau llwyddiannus yn cael mynediad at ymgynghorydd Larder Cymru a fydd yn mentora a chynghori ar y camau gweithredu nesaf, yn nodi heriau daearyddol, yn rhannu arbenigedd, ac yn datblygu cynllun gweithredu trwy sesiynau un-i-un a hyfforddiant.

Dywedodd Bethan y bydd Menter Môn yn parhau i ddarparu prosiectau arloesol a ysgogir gan y gymuned sy’n cael effaith uniongyrchol ar gymunedau yng Nghymru.

“Dyma enghraifft arall o fenter a fydd yn cael effaith enfawr ar fusnesau bach a chyflenwyr annibynnol yng Nghymru tra ar yr un pryd yn cael effaith fawr yn genedlaethol,”.

“Drwy ddatblygu cadwyni cyflenwi llai, bydd yn rhoi’r cyfle i fynd am gontractau mwy, bydd y cynnyrch yn teithio pellter byrrach – gan ddarparu manteision amgylcheddol ac ariannol, yn enwedig o ystyried codiadau ym mhrisiau tanwydd – a bydd hyn yn ei dro yn cael effaith ganlyniadol ar cyflogaeth a diwydiant lleol.”

“Byddwn yn ychwanegu gwerth drwy weithio gyda busnesau, hyfforddwyr ac achredwyr a chyfeirio’r cyflenwyr at y bobl iawn ar yr amser cywir, gan sicrhau bod sianeli cyfathrebu’n ddi-dor a bod cynnydd yn cael ei wneud.

“I ddechrau bydd busnesau a chynhyrchwyr unigol yn cysylltu â ni ond ar ôl asesiadau byddwn yn gallu edrych ar eu grwpio gyda'i gilydd, yn ddaearyddol ac yn logistaidd.

“Os yw eu cynnyrch a’u gwasanaethau yn ategu ei gilydd gallwn roi’r llwyfan gorau iddynt sicrhau cytundebau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i economïau lleol, yr amgylchedd a chymunedau ledled Cymru am flynyddoedd i ddod.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.lardercymru.wales neu ebostiwch dafydd@mentermon.com. Fel arall, dilynwch @mentermon ar gyfryngau cymdeithasol.