CASGLU YNGHYD Y GORAU O GYNNYRCH CYMRU

Yr ydych yma: Hafan > Astudiaethau Achos > Cysyniad Bwyd Stryd

Cysyniad Bwyd Stryd

Mae LARDER CYMRU wedi lansio Cysyniad Bwyd Stryd newydd uchelgeisiol a fydd yn trawsnewid golwg, naws a blas prydau bwyd mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru.

Wedi’i gynllunio i ddod â naws bwyta fodern, debyg i’r stryd fawr, i ffreuturau ysgolion, mae’r rhaglen – a gyflwynir gan Menter Môn – yn cyfuno cyfleustra, cynnyrch ffres o Gymru a chynaliadwyedd, gan wneud dewisiadau iach yn fwy deniadol i ddisgyblion, a chryfhau cadwyni cyflenwi bwyd lleol ar yr un pryd.

Cafodd y prosiect ei dreialu mewn ysgolion ar draws pum awdurdod lleol – Gwynedd, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg – gyda’r hyblygrwydd i bob ardal deilwra’r cysyniad i weddu i’w cymunedau eu hunain.

Mae gorsafoedd bwyd modiwlaidd, opsiynau cipio-a-mynd, prydau arbennig ar steil bwyd stryd, a blychau salad ffres yn creu amgylchedd mwy cyfeillgar i ddisgyblion, gan gynyddu’r defnydd a’r ymgysylltiad. Dengys adborth cynnar fod yr esthetig stryd fawr yn apelio at bobl ifanc, gan helpu i newid y canfyddiad o fwyta mewn ysgolion.

Dywedodd David Wylie, Rheolwr Prosiect Menter Môn:
“Mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i gysylltu cynhyrchwyr Cymreig ag ysgolion ac arddangos ansawdd ein bwyd lleol.

“Rydym yn falch o gefnogi cysyniad newydd o ddarparu prydau ysgol sy’n gyffrous ac yn gynaliadwy. Mae’n ymwneud â chreu cynnig bwyd a phrofiad y mae disgyblion yn ei fwynhau, tra hefyd yn cryfhau ein heconomi leol.

“Mae’r Cysyniad Bwyd Stryd yn adeiladu ar flynyddoedd o waith yn datblygu llwybrau cyflenwi lleol, cefnogi ffermwyr, a helpu ysgolion i leihau eu hôl troed carbon drwy gaffael mwy craff.”

Mae’r Cysyniad Bwyd Stryd yn rhan o genhadaeth ehangach Larder Cymru i gynyddu caffael bwyd Cymreig yn y sector cyhoeddus, lleihau milltiroedd bwyd, a sicrhau bod mwy o gynhyrchwyr lleol yn elwa o gontractau ysgolion a’r sector cyhoeddus.

Mae gwaith parhaus y rhaglen gyda thyfwyr, proseswyr a thimau arlwyo eisoes wedi helpu i fyrhau cadwyni cyflenwi, cyflwyno mwy o gynnyrch tymhorol, ac ymgorffori cynaliadwyedd wrth galon bwyd ysgolion.

Ochr yn ochr â’r broses o gyflwyno bwyd stryd, mae Larder Cymru wedi cynnal cynlluniau peilot cyflenwi cynhyrchwyr-i-ysgolion ac wedi cydweithio â thimau arlwyo i ail-lunio bwydlenni gan ddefnyddio mwy o gynhwysion lleol.

Mae sesiynau ‘o’r cae i’r fforc’ yn yr ystafell ddosbarth ac ymweliadau â ffermydd wedi helpu disgyblion i ddeall o ble mae bwyd yn dod a pham mae cynaliadwyedd yn bwysig, gan sicrhau bod manteision y cynllun yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ffreutur.

Mae’r momentwm eisoes yn tyfu. Yng Ngwynedd, mae ymgyrch ddiweddar wedi annog mwy o fusnesau bwyd lleol i ymuno â’r gadwyn gyflenwi ysgolion, gan gryfhau economi fwyd y rhanbarth ac ehangu’r dewis i ddysgwyr.

Dywedodd Rhian Hughes, Rheolwr Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Addysg Cyngor Gwynedd:
“Mae’r Cysyniad Bwyd Stryd yn dathlu cynnyrch Cymreig ac yn cynnig ffordd ffres o ymgysylltu â disgyblion ynghylch bwyta’n iach. Mae’n gam cadarnhaol ymlaen i arlwyo ysgolion yng Ngwynedd, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’n datblygu o’r gweithgarwch peilot yn Ysgol Friars, Bangor.”

Ychwanegodd Shelly Toms, Goruchwyliwr Gweithrediadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
“Rydym yn falch o fod yn rhan o brosiect sy’n dod ag arloesedd i brydau ysgol. Mae’r Cysyniad Bwyd Stryd yn cynnig hyblygrwydd ac amrywiaeth, gan ein helpu i ddiwallu anghenion ein disgyblion tra’n cefnogi cyflenwyr lleol. Mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill – ysgolion a chymunedau fel ei gilydd.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan www.lardercymru.wales neu e-bostiwch david@mentermon.com. Dilynwch Menter Môn ar y cyfryngau cymdeithasol am y diweddariadau a chynnwys y tu ôl i’r llenni.